Calon Lân - Cerys Matthews

Calon Lân - Cerys Matthews

  • Rok wydania: 2010
  • Język: walijski
  • Czas trwania: 2:31

Poniżej tekst piosenki Calon Lân , wykonawca - Cerys Matthews z tłumaczeniem

Tekst piosenki „ Calon Lân ”

Oryginalny tekst z tłumaczeniem

Calon Lân

Cerys Matthews

Gofyn wyf am galon hapus,

Calon onest, calon lân.

Nid wy’n gofyn bywyd moethus,

Aur y byd na’i berlau mân:

Gofyn wyf am galon hapus,

Calon onest, calon lân.

Pe dymunwn olud bydol,

Hedyn buan ganddo sydd;

Golud calon lân, rinweddol,

Yn dwyn bythol elw fydd.

Calon lân yn llawn daioni,

Tecach yw na’r lili dlos:

Dim ond calon lân all ganu-

Canu’r dydd a chanu’r nos.

Hwyr a bore fy nymuniad

Gwyd i’r nef ar edyn cân

Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,

Roddi i mi galon lân.

Calon lân yn llawn daioni,

Tecach yw na’r lili dlos:

Dim ond calon lân all ganu-

Canu’r dydd a chanu’r nos.

Nid wy’n gofyn bywyd moethus,

Aur y byd na’i berlau mân:

Gofyn wyf am galon hapus,

Calon onest, calon lân.

Calon lân yn llawn daioni,

Tecach yw na’r lili dlos:

Dim ond calon lân all ganu-

Canu’r dydd a chanu’r nos.

Calon lân yn llawn daioni,

Tecach yw na’r lili dlos:

Dim ond calon lân all ganu-

Canu’r dydd a chanu’r nos.

Ponad 2 miliony tekstów piosenek

Piosenki w różnych językach

Tłumaczenia

Wysokiej jakości tłumaczenia na wszystkie języki

Szybkie wyszukiwanie

Znajdź potrzebne teksty w kilka sekund